Adroddiad drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA
Teitl: Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2015
Mae'r Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor hwn wedi'i wneud o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae Adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi nifer o bersonau nad ydynt yn cael bod yn aelodau o’r Cynulliad. Yn ogystal, mae’n darparu i Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor ddynodi swyddi pellach a mathau pellach o gyflogaeth, lle byddai’r deiliaid swyddi a’r mathau hynny o gyflogaeth hefyd yn cael eu hanghymhwyso rhag bod yn aelodau o’r Cynulliad. Dim ond gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor y gellir gwneud Gorchymyn o’r fath, os yw drafft wedi cael ei gyflwyno ger bron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad.
Yn ogystal, mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Anghymhwyso) 2010 (OS 2010/2969).
Gweithdrefn: Cadarnhaol
Materion technegol: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3(ii) mewn perthynas â'r offeryn hwn, sef ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy'n debyg o fod o ddiddordeb i'r Cynulliad.
1. Cyflwynodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol adroddiad ar ei ymchwiliad (“ymchwiliad y Pwyllgor”) i Anghymhwyso person rhag bod yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2014. Roedd paragraff 11 o ymateb Llywodraeth Cymru (“yr ymateb”) yn cyfeirio at y canlynol:
“mae'r rhestr o swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso yn deillio o nifer o ffynonellau (Deddf Llywodraeth Cymru, y Gorchymyn Anghymwyso oedd mewn grym ar y pryd, ac unrhyw ddarpariaethau perthnasol a wnaed drwy ddeddfwriaeth bresennol y Cynulliad)” ac “o ystyried bod y darpariaethau anghymhwyso yn deillio o amryw ffynonellau, gallai fod yn anodd iawn i unrhyw ymgeisydd posibl fod yn siŵr nad yw ef neu hi wedi torri unrhyw waharddiadau drwy gamgymeriad...”
2. Er mwyn ymdrin â’r pwynt hwn, mae ymateb y Llywodraeth ym mharagraff 12 yn nodi;
“Hefyd, er mwyn datblygu Gorchymyn Anghymwyso drafft newydd yn 2015, mae Llywodraeth Cymru, gan weithio yn ôl y gofyn gyda'r Comisiwn Etholiadol, yn bwriadu llunio rhestr gynhwysfawr ac anstatudol o'r holl ddarpariaethau anghymhwyso rydym yn ymwybodol ohonynt, o ba bynnag ffynhonnell, a'i chyhoeddi i'r pleidiau a darpar ymgeiswyr.”
3. At hynny, drafftiwyd y Gorchymyn hwn ar sail meini prawf Llywodraeth Cymru a bennwyd ar ôl iddi ystyried adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor ar ei ymchwiliad ar gyfer penderfynu pa swyddi y dylid eu rhestru yn y Gorchymyn drafft. Roedd y meini prawf yn deillio o'r egwyddorion a ganlyn, a nodir yn argymhelliad 1 o adroddiad y Pwyllgor ar yr ymchwiliad :
Egwyddor 1: Mae hyrwyddo cyfranogiad democrataidd a'r hawl i sefyll fel Aelod Cynulliad yn hollbwysig.
Egwyddor 2: Dylai anghymwyso person rhag bod yn aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei gyfyngu i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl.
Egwyddor 3: Mae gweithgarwch gwleidyddol yn amhriodol yng nghyswllt rhai dinasyddion er mwyn:
i. amddiffyn annibyniaeth y broses etholiadol;
ii. atal gwrthdaro rhag codi rhwng buddiannau pan gaiff unigolyn ei ethol; a
iii. amddiffyn rhai swyddi cyhoeddus rhag rhagfarn wleidyddol.
Egwyddor 4:Dylai gorchymyn anghymhwyso fod yn berthnasol i'r dinasyddion canlynol:
i. y rheini y mae eu rôl yn gofyn iddynt fod yn gwbl ddiduedd,
ii. gan gynnwys y rheini y mae eu cyfrifoldebau'n cynnwys y broses etholiadol ei hun;
iii. y rheini sy'n dal unrhyw swydd gyhoeddus lle derbynnir budd ariannol sylweddol oddi wrth Lywodraeth Cymru;
iv. y rheini sydd mewn swydd gyhoeddus ac yn darparu cyngor ffurfiol i Lywodraeth Cymru yn y rôl honno;
v. y rheini sy'n dal unrhyw swydd gyhoeddus y mae'r Cynulliad yn craffu arni.
Egwyddor 5: Os oes rhaid anghymhwyso, rhaid iddynt fod:
i. yn gyson â'r egwyddorion hyn;
ii. yn glir ac yn ddiamwys;
iii. yn gymesur.
4. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r gostyngiad yn nifer y swyddi sydd wedi'u hanghymhwyso o gymharu â Gorchymyn 2010, yn unol â'i argymhellion y dylid cyfyngu anghymhwyster i gyn lleied o ddinasyddion â phosibl.
5. Mae'r Pwyllgor yn croesawu'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn yn ddwyieithog, yn wahanol i Orchymyn 2010 a ddisodlir. Fodd bynnag, mae'r fformat yn anarferol gan nad yw ar ffurf colofnau a ddefnyddir fel arfer ar gyfer Offerynnau Statudol, nac yn dilyn y ffurf a ddefnyddir ar gyfer Deddfau'r Cynulliad sef lle mae'r Gymraeg a'r Saesneg ar dudalennau sy'n wynebu ei gilydd. Mae'r Gorchymyn hwn wedi'i baratoi gyda'r testun Saesneg llawn cyn y Gymraeg, yn y Gorchymyn a'r Atodlen.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mai 2015